Croeso i www.rmjones-bobijones.net

Ymateb unigol yw'r Wefan hon i sefyllfa ddiwylliannol, gymdeithasol, a phersonol ar adeg benodol yn ein gwlad. Ceir tuag ugain o eitemau. Ymateb yw ar ffurf cerddi, nofel, a storïau byrion, beirniadaeth lenyddol, ieithyddiaeth a diwinyddiaeth. Ymateb i gyflwr yr amseroedd yw.

Daeth Sgeptigiaeth yn ddogma confensiynol yn niwedd yr ugeinfed ganrif. Doedd neb deallol i fod i gredu dim o ddifri. Gwedd ar Ôl-foderniaeth oedd hyn. Derbynnid Afreswm yn gyffredinol mewn Ôl-foderniaeth, ond heb esbonio na deall yn ymarferol pam a sut. Ymgais i drafod y pam a'r sut yw'r Wefan hon.

Gellid honni bod yna fath o undod o ran thema sy'n clymu'r llenddulliau i gyd yn y Wefan hon. Fe ellid enwi'r undod hwnnw yn 'Ôl-ôl-foderniaeth'. Safbwynt yw sy'n ymwybodol o'r Sgeptig a'r Afreswm a'r dyrchafu ar yr Ego dynol, ond yn eu gwrthod hwy. Fe'i bwriedir fel olynydd i Ôl-foderniaeth.

Mae Ôl-foderniaeth yn cael ei gwrthod am ei bod heb fod yn hunan-feirniadol: nid oedd ei harddelwyr yn ymwybodol o annigonolrwydd eu rhagdybiau. Mynnai Ôl-foderniaeth ar egwyddor fel petai, wrthod cydnabod y gallai fod yna unrhyw werthoedd gwrthrychol ac unrhyw ymgais o ddifri i fynnu bod yna bwrpas deallol a rhesymol (ac uwch-resymol) i'r greadigaeth, a'r rheina'n gynhenid ddigyfnewid. Yn y bôn, brwydr rhwng y gred yn y Naturiolaidd noeth a'r Goruwchnaturiol anochel oedd y ddadl gyffredinol hon. Adeiladwyd y naill ochr a'r llall ar ragosodiadau.

Ansicrwydd sefydlog a gorfodol sydd, a fu, ac a fydd mewn bri yn niwedd y ganrif ddiwethaf ac ar ddechrau'r ganrif hon. Daeth seciwlariaeth anhunanfeirniadol yn rhemp ac yn ormes arferol ym meddyliau newyddiadurol yr oes. Daeth yn angenrheidiol i ddeallusion academaidd fod yn amhenderfynol.

Mae'r cyfrolau yn y Wefan hon yn cwestiyna rhagdyb y Sefydliad Ôl-fodernaidd hwnnw. Dilynir llwybr peryglus yn lle'r farn ffasiynol. Ar ryw olwg, mae'n hen, ac yn mawrygu parch y Clasurol at Ffurf a Gwreiddiau; ac ar ryw olwg, mae'n ifanc hefyd yn mawrygu agwedd wyllt y Rhamantaidd. Yn lle didueddrwydd honedig, derbynnir tueddrwydd. Gwelir un enghraifft ymwybodol o hyn yn ôl y ddadl a gafwyd yng ngwyddor Hanes ynghylch y 'diduedd'. Wynebir y ddadl na ellir wrth gwrs ysgrifennu'n ddiduedd, gan fod 'bod yn ddiduedd' yn duedd ac yn ddethol ynddi'i hun. Mae'r syniadaeth wrth-ôl-fodernaidd a gynigir yn y Wefan hon, yn hytrach, yn unol â'r safbwynt Cristnogol sy'n ddigyfnewid o ran hanfod ac sy'n hawlio bod bywyd yn y bôn yn rhoddedig ac yn gadarnhaol, ac yn sylfaenol o blaid y moesol a'r ystyrlon, – ac yn pleidio'r unol. Ond mae'n naturiol ac yn oruwchnaturiol hefyd, yn amserol ac yn ddiamser, er gwaethaf ffaeledigrwydd naturiol yr hyn a ddigwyddodd ym mherthynas hanesyddol y ddwy ochr hyn. Y mae hefyd yn gyffredinol ac yn unigol.

Ni fwriadwyd y Wefan hon fel pregeth, wrth gwrs, ond fel mawl a dathliad, fel disgrifiad a diddanwch, trwm ac ysgafn, o fewn trefn realistig, mewn un lle bychan yn y Tragwyddol.