Beirniadaeth Lenyddol

Y Cynllun Sy'n Canu: tt. 662
(i) Mae'r gyfrol hon yn ceisio llenwi bwlch yn theori Beirniadaeth Gyfansawdd 2003. Nid yw'n ychwanegu dim sylfaenol at fframwaith yr hyn a amlinellwyd yn y gyfrol honno: sef Tafod, Cymhelliad, Mynegiant; ynghyd â Deunydd a Ffurf. Manylu a wna yn hytrach ar un o'r gweddau na fanylwyd arnynt o'r blaen. Sef Deunydd – yn arbennig y 'Weithred o Esgor ar Ddeunydd', neu'r drefn feddyliol o esgor ar themâu.

(ii) Gwreiddiwyd theori'r astudiaeth hon yng ngwaith un llenor penodol, sef 'William Williams Pantycelyn'. Astudiaeth yw o'i Feddwl Llenyddol, gan sylwi ar undod hynny a'i led. Sylwir ar ei drefnusrwyddd cyfun. Yr hyn nas disgwyliwyd oedd amlinellu natur hierarcaidd y weithred lenyddol a'r camre anorfod a geid ynddi. Ond mwy byth o syndod oedd sylweddoli bod patrwm y weithred ddeunyddiol lenyddol hon ei hun, bob amser, hyd yn oed yn seciwlar, yn dilyn yr un drefn. Hynny yw, Gras Cyffredin yw o ran adeiladwaith a doniau. Y mae pob cam o fewn y weithred ddeunyddiol lenyddol gyffredinol yn gytûn ac yn rhannu'r un gyfundrefn fertigol.

(iii) Wrth geisio arolygu trefn a chydlyniad meddwl Pantycelyn, gwelwyd yn anochel fod a wnelo hwnnw â'r traddodiad Calfinaidd mewn Diwinyddiaeth Gyfundrefnol. Yn y gorffennol, y mae Diwinyddion Cyfundrefnol wedi dod at y maes traddodiadol hwnnw o'r cyfeiriad 'llorweddol.' Hynny yw, trafodant restr o themâu, at ei gilydd, heb sylwi'n ddigon manwl ar reidrwydd olynol a pherthynas pob cyfundrefn gyda'i gilydd. Yn y gyfrol hon ceisir dod at y Gyfundrefn o gyfundrefnau mewn modd cydlynol crwn ac yn fertigol yn ôl trefn hierarcaidd anochel. Gan ddechrau yn y gwraidd, sef yr Absoliwt, y mae yna anocheledd yng nghydberthynas y Cwlwm tarddiadol sy'n dilyn. Mae'n canlyn ymlaen drwy'r Deunydd meddyliol yn ei holl rychwant, drwy'r Deddfau, o'u gwneuthuriad i'w natur, ymlaen wedyn i'r Ymarfer. Yna, â drwy Ddewis Thematig, hyd at y Defnydd o ddeall ac o iaith. Dyma'r ffurf fertigol o sylweddoli Diwinyddiaeth gyfundrefnol. Nid yw'r fertigol yn rhagori ar y llorweddol, wrth gwrs. Yn wir, fel arall. Gwasanaethgar yw wrth fwrw golwg yn adeiladol wahanol. Ymgais yw i ddangos ym mha ffordd y mae Diwinyddiaeth yn ymhyfrydu mewn bod yn Gyfundrefn o gyfundrefnau o'r brig i'r bôn, yn ddi-dor ddi-fwlch.

[Estyniad yw'r astudiaeth hon i gyfrolau eraill gan yr awdur: I'r Arch 1959; Y Tair Rhamant 1960; Highlights in Welsh Literature 1969: Tafod y Llenor 1974; Llenyddiaeth Gymraeg 1936-1972, 1975;ac yn arbennig Seiliau Beirniadaeth 4 cyf. 1984-88; The Dragon's Pen (gyda Gwyn Thomas) 1986; Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936, 1987; Blodeugerdd Barddas o'r 19eg Ganrif 1998; Beirniadaeth Gyfansawdd 2003; Meddwl y Gynghanedd 2005; (Ar y gweill Rhai Beirniaid Cymraeg)]

Gellir lawrlwytho/edrych ar y llyfr hwn drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod:

Y Cynllun Sy'n Canu