Canolfan

Canolfan Ymchwil i Adennill Iaith
Corfforir yn y fan hon ddwy eitem ar ffurf llythyr agored at Gomisiynydd yr Iaith, Meri Huws.

Yn yr eitem hon, ceisir dadlau pam y mae angen atrefnu'r defnyddiau Adfer Iaith presennol. Er gwaethaf rhagoriaeth athrawon, oherwydd sefyllfa broffesiynol geidwadol a dihyfforddiant, ni ellir cyflawni'r gwaith yn foddhaol heb hyfforddiant trwyadl ac ymchwil estynedig gan dîm o gyfarwyddwyr arbenigol. Nodir yn fanwl pa fath o gymwysterau sy'n angenrheidiol.

Hefyd, trafodir y bwlch mawr mewn polisi – fel y dihangwyd rhag canol polisi adennill y Gymraeg – sef y sector gwirfoddol, a'r cyswllt ymarferol a osgoir gan y Cymry Cymraeg Rhugl yn eu perthynas uniongyrchol â Dysgwyr. Rhybuddwyd ynghylch Ymchwil nad yw ynghlwm wrth lunio cyrsiau yn gyntaf.

Canolfan Ymchwil i Adennill Iaith