Nofel

Breuddwydion Maxine: tt.484
Byddai'r 'Hen Sigmwnd', fel y galwai Maxine ef, wedi pwyso'r Ugeinfed Ganrif yn yr unffordd ag y byddai rhai darllenwyr o bosib yn pwyso'r nofel hon: 'Rhyw i gyd!' Ond gellid bod yn siwr hefyd na fyddai pob darllenydd yn cytuno.

Yn chwaer i Hunllef Arthur, stori ramant yw Breuddwyd Maxine. Yr Ugeinfed Ganrif yw'r arwres ynddi. Doedd honno ddim yn ffrind i Maxine, menyw a fynnai ramant go iawn. A chan mai Maxine oedd hi (ynghyd â Len wrth gwrs os cawn ei roi felly rhwng cromfachau), diau fod ganddi ryw hawl i gael ei ffordd yn hyn o beth unwaith eto. Yn wyneb hynny oll, yn y nofel hon, darganfyddir bod perthynas gwr a benyw yn fwy cyfareddol o dipyn nag y tybiai Maxine erioed.

[Estyniad yw hon i: Storïau Byrion: Y Dyn na Ddaeth Adref 1966; Ci wrth y Drws 1968; Daw'r Pasg i Bawb 1965; Traed Prydferth 1973; Pwy Laddodd Miss Wales 1977; Crio Chwerthin 1990; Dawn Gweddwon 1992; Rhy Iach 2004. Nofelau: Nid yw Dwr yn Plygu 1958; Bod yn Wraig 1977; Epistol Serch a Selsig 1991.]

Gellir lawrlwytho/edrych ar y llyfr hwn drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod:

Breuddwydion Maxine