Awdur Y Beibl

Yn y gyfrol hon, archwilir y ffordd y mae'r Ysbryd Glân yn gweithio yng nghyfansoddiad y Beibl. Gweithia drwy Ddeunydd hanesyddol a'i ddehongliad. Mae'n dangos sut y mae'n sicrhau Undod rhwng yr holl rannau amrywiol (Amryw mewn Un). A'r ddau brif gymhelliad yw'r Gorchymyn Cenhadol (sef Tystiolaethu) a'r rheidrwydd i Ogoneddu Duw. Ceisir ystyried beth yw ystyr Gogoniant. A thrafodir llawer o faterion perthnasol eraill – fel arwyddocâd y Llythrennol, Gras Cyffredin, Sensus Divinitatis, Cydwybod, a llenddulliau (genres) y Beibl yn ôl diffiniad diweddaraf y term.

Awdur Y Beibl