Storïau

Cafwyd wyth o gyfrolau o storïau byrion gan Bobi Jones, sef Y Dyn na Ddaeth Adref (1966), Ci wrth y Drws (1968), Daw'r Pasg i Bawb (1969), Traed Prydferth (1973), Pwy Laddodd Miss Wales (1977), Crio Chwerthin (1990), Dawn Gweddwon (1992), Rhy Iach (2004).

Yn y Wefan hon, bwriedir cyhoeddi detholiad llym o ryw hanner y storïau hyn. Y tro yma, ni chafwyd cyfle ond i gynnwys pump o storïau yn dod o'r ail gyfrol. Ond ymddangosant ar ffurf fwy boddhaol nag yn yr agraffiad cyntaf; a dyna'r math o ddiwygio a geir rywbryd pan gyflwynir y gweddill o'r gyfrol sydd eisoes yn barod.

Storïau