Waldo ac R.S

Gobaith ac Anobaith Waldo ac R.S.
Wrth fwrw golwg yn ôl i'r ugeinfed ganrif, cafwyd dau fardd enwog, cenedlaethol eu bryd a chrefyddol eu gogwydd. Yr oedd y naill yn sgrifennu yn y Gymraeg, a'r llall yn Saesneg. Byddai llawer o bobl erbyn hyn, o leiaf o fewn tiriogaeth Cymru, yn ystyried mai'r ddau hyn oedd ein beirdd mwyaf nodedig yn y ganrif honno.

Yn eu gwaith lluniwyd dwy ddelwedd hollol wahanol am Gymru (a'r byd). Ond cawsant weledigaeth gynhwysfawr, os cyferbyniol, am amlder bywyd. Yn eu lleoliad diriaethol a'u gogwydd ysbrydol, cawsant un metanaratif a oedd yn rhedeg ar hyd echel o Obaith hyd Anobaith. Ceid themâu cymhlethog gan y ddau, er bod yr argraff a grewyd ganddynt ym mryd rhai darllenwyr yn tueddu i fod yn symleiddiol ym mryd rhai – Waldo'n tueddbennu tuag at obaith cadarnhaol ac R.S. yn tueddbennu tuag at anobaith negyddol; Waldo'n symud tuag at gymuned, R.S. yn symud at unigedd; Waldo'n cofleidio Crist, R.S. yn estyn breichiau gwag. Ond canfyddir bod y sefyllfa'n fwy amryliw o lawer na hynny. Ar ryw olwg, mae'r ddau fardd yn crynhoi'n onest mewn cerddi cynhyrfus fyfyrdod a delweddiad o fywyd meddyliol a theimladol yr ugeinfed ganrif sy'n dal yn gynhysgaeth oludog gelfyddydol i ni yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gellir lawrlwytho/edrych ar y llyfr hwn drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod:

Geraint