Adennill yr Iaith
A Fydd y Cymry Cymraeg mewn Pryd?: tt. 185
Trafodir dau wendid allweddol yn y strategaeth ar gyfer adfywio'r iaith Gymraeg. Dau wendid nas cymerwyd o ddifrif. Cynigir fod yna ddau le sylfaenol sy'n ysigo'r ymgais arwrol sydd ar gerdded i adfywio'r iaith Gymraeg heddiw.
(i) Canolbwyntiwyd yn y gorffennol yn ormodol ar Statws yr Iaith, ac ar fudiadau Protest a oedd bob amser yn gofyn i bobl eraill 'wneud rhywbeth', ac ar Gadw enciliol. Rhwydd oedd y pwyslais hwn; ac yn ystod y deugain mlynedd difethwyd y bröydd Cymraeg lle yr oedd 80% neu fwy o siaradwyr Cymraeg. Bodlonai Cymry Cymraeg brwd at ei gilydd ar osgoi ymrwymo yn y gwaith o adennill eu hunain, er mwyn 'Cadw'. Osgöwyd gwaith gwirfoddol sy'n meithrin ewyllys ymarferol adferol uniongyrchol. Ni cheisiwyd pontio o ddifrif rhwng siaradwyr Cymraeg ymrwymedig a dysgwyr difrif mewn oed. Awgrymir felly ffordd ymwared amhoblogaidd, gan ddringo allan o'r seithugrwydd hwn yn weithredol. Yr unig ateb i'r ardaloedd Cymraeg yw meddwl a meddwl a gweithredu'n ddyfeisgar ddi-baid yn y gwaith strwythuredig hwn, fel y daw nifer helaeth o siaradwyr rhugl i fynnu cynorthwyo'n dysgwyr ni, nid fel athrawon yn unig, ond fel cyfeillion. Awgrymir felly y cam nesaf yn yr ymgyrch.
(ii) Nid aethpwyd ati yng Nghymru i astudio 'Didacteg' yn systematig fel dyletswydd barhaol. Ni ddatblygwyd y drefn olynol lem orau sy'n angenrheidiol wrth gynllunio defnyddiau cyrsiau Cymraeg fel Ail Iaith. Erys y cyrsiau Ail Iaith o'r herwydd yn annigonol. Ni phwyswyd patrwm y gwaith angenrheidiol i'w wneud yn sylfaenol. Awgryma'r awdur fod angen ymchwilio'n ymarferol barhaol yn y deunyddiau a'r dulliau gorau. Rhoddir dadansoddiad o'r broblem yn dechnegol ar hyn o bryd ar sail dros hanner can mlynedd o ymwneud rywfaint â'r maes. Amlinellir gweddau sylfaenol ar y gweithredu creadigol y dylid eu dilyn yn y cyrsiau sydd ar waith, yn bennaf gydag Oedolion, er bod y sylwadau'n berthnasol hefyd i ysgolion lle y mae'r Gymraeg yn ail iaith.
[Estyniad yw hon i: Graddio Geirfa 1962; Theori Ail Iaith 1962-1966; Cyflwyno'r Gymraeg 1964; Cymraeg i Oedolion I a II 1965-66; System in Child Language 1970; Cyfeiriadur i'r Athro Iaith I,II, III (gyda Megan Roberts) 1974-1979; Gloywi Iaith I,II,III (gyda Rhiannon Ifans) 1988; Cyd: Iaith Ifanc (gol.) 1992; Language Regained 1993; Dysgu Cyfansawdd 2003.]
Gellir lawrlwytho/edrych ar y llyfr hwn drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod: